Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi dod yn noddwr swyddogol am mae Cynghreiriau JD Cymru

Mae Cynghreiriau JD Cymru wrth eu bodd yn cyhoeddi bod Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi dod yn noddwr swyddogol Cwpan Cynghrair Haen 2 ar gyfer tymor 2022/23.

Bydd y bartneriaeth, fydd yn rhedeg ar gyfer ymgyrch gyntaf y gystadleuaeth, yn gweld y gystadleuaeth nawr yn cael ei hadnabod fel Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Gwaed, Chwys ac Iechyd Da

Fe wnaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru ffurfio partneriaeth gyda JD Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Genero Adran yn 2020 er mwyn annog cefnogwyr pêl-droed domestig i roi gwaed mewn ymgyrch newydd sbon 'Gwaed, Chwys a Iechyd Da!'

Darllen mwy
Barry Town celebrate scoring

Mae ymgyrch Gwaed Chwys ac Iechyd Da eisoes o bosib wedi achub bywydau dros 2,000 o oedolion ers lansio a bydd clybiau ar draws y cynghreiriau yn parhau i gefnogi'r sefydliad drwy gydol yr ymgyrch newydd.

Bydd Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cael ei ranbartholi yn y camau cynnar gyda'r timoedd yn cael eu rannu'n adrannau gogleddol a deheuol nes bydd y ddau enillydd rhanbarthol yn cael eu cadarnhau.

Yna bydd enillwyr adran y gogledd yn herio enillwyr adran y de wrth iddynt frwydo i greu hanes a dod yn bencampwyr cyntaf Cwpan Cynghrair Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Dywedodd Peter Richardson, Pennaeth Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfio â Rheoliadau yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru: "Fel Gwasanaeth, rydyn ni'n ffynnu pan mae cymunedau'n dod at ei gilydd, ac rydyn ni eisoes wedi gweld manteision sut mae pêl-droed lleol, wrth galon cymunedau, yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.

"Rydym wrth ein boddau ein bod yn parhau i weithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac o fod yn rhan o’r Cwpan Cynghrair Haen 2 cyntaf, sy'n hybu pwysigrwydd rhoi gwaed, platennau neu fêr esgyrn i bobl mewn angen."

 

Rydym yn gyffrous y bydd ein partneriaid cymunedol Gwasanaeth Gwaed Cymru yn dod yn noddwr Cwpan Cynghrair Haen 2 ar gyfer y tymor agoriadol.

Dywedodd Nick Davies, Uwch Reolwr Cystadlaethau Dros Dro Cymdeithas Bêl-droed Cymru

"Rydym yn hynod falch o bartneriaeth gymunedol Cynghreiriau JD Cymru gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru a sut y mae wedi datblygu ers lansio ychydig llai na dwy flynedd yn ôl.

"Mae'r bartneriaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y wlad ac mae'n braf gweld sut mae'r clybiau wedi helpu i achub bywydau drwy'r ymgyrch Gwaed Chwys ac Iechyd Da.

"Bydd y gystadleuaeth newydd yn golygu y bydd clybiau'n cystadlu mewn fformat cystadleuaeth gyffrous yn adrannau'r gogledd a'r de, cyn i enillydd cyffredinol gael ei goroni ar ddiwedd yr ymgyrch."

Gallwch gefnogi eich clwb lleol mewn ffordd wahanol ac ystyried ymuno â'n hymgyrch Gwaed Chwys ac Iechyd Da heddiw.

Dewch o hyd i sesiwn rhoi gwaed yn eich ardal chi.